1 Corinthians 11:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr vn modd hefyt y cymerth ef y phiol, gwedy yddaw swpery, gan ddywedyt, Y phiol hon yw ’r Testament newydd yn vy‐gwaet: gwnewch hyn cynniuer‐gwaith‐bynac yr yfoch, er cof fa am danaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr un modd hefyd y cwppan, ar ol swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn, y cyfammod newydd yw yn Fy ngwaed I. Hyn gwnewch, cynnifer gwaith ag yr yfoch, er cof am Danaf Fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un modd, y cwpan hefyd, gwedi swper, gan ddywedyd: Y cwpan hwn, y cyfamod newydd ydyw yn y gwaed mau. Gwnewch hyn, gynifer gwaith bynnag yr yfoch, er cof amdanaf i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw'r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi ei selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar l swper, gan ddweud, "Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr un modd hefyd y cwpan, ar ol swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfammod Newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynnifer gwaith bynnag yr yfoch, er côf am danaf.