1 Corinthians 11:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny, pwybynac a vwytao ’r bara hwn, ac a yfo y phiol yn an t eilwng, a vydd ’auawc am ddirmygu corph a’ gwaed yr Arglwyð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly, pwy bynnag a fwyttao y bara hwn, neu a yfo gwppan yr Arglwydd, mewn modd annheilwng, dyledwr fydd i gorph a gwaed yr Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, y neb a fwytao’r bara neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn anheilwng, euog fydd o gorff ac o waed yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, pwy bynnag a fwytao'r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r bara neu'n yfed o gwpan yr Arglwydd mewn ffordd sy'n anweddus yn cael ei gyfri'n euog o bechu yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, pwy bynnag fydd yn bwyta'r bara neu'n yfed cwpan yr Arglwydd yn annheilwng, bydd yn euog o drosedd yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O ganlyniad, pwy bynnag a fwyttâo y bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd mewn modd annheilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd.