1 Corinthians 11:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys hwn a vwyta o ac a yfo yn anteilwng, a vwyty ac a yf y varnedigaeth y hun, can na d yw yn iawn‐varnu am gorph yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
barnedigaeth iddo ei hun y mae efe yn ei bwytta ac yn ei hyfed, pan na wahan-farno’r corph.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y neb sy’n bwyta ac yn yfed, barn iddo’i hun y mae’n ei bwyta a’i hyfed, oni iawn farno’r corff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pawb sy'n bwyta ac yfed yn ddifeddwl, heb gydnabod ein bod gyda'n gilydd yn ‛gorff yr Arglwydd‛ yn bwyta ac yfed barn arnyn nhw eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r sawl sydd yn bwyta ac yn yfed, os nad yw'n dirnad y corff, yn bwyta ac yn yfed barn arno'i hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, pan nad yw yn iawn‐farnu y corph.