1 Corinthians 11:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit hyn y mae llawer yn weinion, ac yn gleifion yn eich plith, a’ llawer yn hunaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn y mae yn eich plith lawer yn weiniaid ac yn llesg, a huno y mae llawer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyna paham y mae llawer yn eich plith chwi yn weiniaid a nychlyd, a chryn nifer yn huno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam mae cymaint ohonoch chi'n dioddef o wendid a salwch, a pam mae rhai hyd yn oed wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna pam y mae llawer yn eich plith yn wan ac yn glaf, a chryn nifer wedi marw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn y mae llawer yn eich plith yn weiniaid ac yn dihoeni, ac amryw yn huno;