1 Corinthians 11:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr pan in barnir, in cospir y gan yr Arglwyð, rac ein barnu‐yn‐euawc gyd a’r byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd, yr ydym yn cael ein ceryddu, rhag, ynghyda’r byd, ein condemnio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan fernir ni gan yr Arglwydd, fe’n disgyblir, fel na’n collfarner gyda’r byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan y'n bernir, y'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na'n damnier gyda'r byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond hyd yn oed pan fyddwn yn cael ein barnu gan yr Arglwydd, ein disgyblu mae e'n ei wneud, dim ein condemnio gyda'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan fernir ni gan yr Arglwydd, cael ein disgyblu yr ydym, rhag i ni gael ein condemnio gyda'r byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd y'n ceryddir, fel na'n collfarner gyda'r byd.