1 Corinthians 11:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s bydd newyn ar neb, bwytaet gratref, rac eich dyvot yn‐cyt i varnedigeth. Tu ac at am petheu eraill, mi au trefnaf pan ddelwyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os bydd neb a newyn arno, yn ei dŷ bwyttaed, fel nad er barnedigaeth y deloch ynghyd. Ond y pethau eraill, pan ddelwyf, a drefnaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Od oes neb â newyn arno, bwytaed yn tŷ, fel nad i farn y deloch ynghŷd. A phopeth arall, pan ddelwyf mi a’u trefnaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun bron llwgu, dylai fwyta gartref, wedyn fydd eich cyfarfodydd chi gyda'ch gilydd ddim yn arwain i farn. Bydda i'n delio gyda'r materion eraill pan fydda i'n dod atoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd ar rywun eisiau bwyd, dylai fwyta gartref, rhag i'ch ymgynulliad arwain i farn arnoch. Ond am y pethau eraill, caf roi trefn arnynt pan ddof atoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os bydd newyn ar neb, bwyttâed yn ei dŷ, fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.