1 Corinthians 11:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pop gwreic a weddia neu a bropwyta yn bennoeth, amparcha h i phen: can ys yr vnryw beth yw hyny a’ phe bei wedy eilliaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
cywilyddio ei ben y mae; a phob gwraig yn gweddïo, neu yn prophwydo, heb orchudd am ei phen, cywilyddio ei phen y mae, canys yr un, a’r un peth, yw a phe ei heilliesid hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phob gwraig a weddïo neu a broffwydo a’i phen yn ddiorchudd, y mae’n bwrw anfri ar ei phen hithau. Canys un ydyw ac unfath â’r eilliedig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchuddio'i phen yn dangos diffyg hunan-barch — mae'n union fel petai hi wedi eillio ei phen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae pob gwraig sy'n gweddo neu'n proffwydo heb orchudd ar ei phen yn gwaradwyddo'i phen; y mae hi'n union fel merch sydd wedi ei heillio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr pob gwraig yn gweddio ac yn prophwydo, a'i phen heb orchudd, sydd yn dianrhydeddu ei phen: canys yr un peth yw â'r un sydd wedi ei heillio.