1 Corinthians 11:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny any bydd y wreic a dim am hei phen cneifier hi hefyt: a’s gwradwyð us i wraic hi chneifio neu h’eillio, rhoed beth am hi phen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os heb orchudd y mae gwraig, cneifier hi hefyd; ond os cywilyddus i wraig ei chneifio neu ei heillio, bydded a gorchudd am dani.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os gwraig ni ddwg orchudd, cneifier hithau hefyd. Gwarthus i wraig yw torri ei gwallt neu eillio ei phen. Gwisged orchudd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy gwraig ddim am orchuddio'i phen, dylai gael gwared â'i gwallt. Ac os ydy e'n beth cywilyddus i wraig gael gwared â'i gwallt neu gael ei heillio, dylai felly orchuddio ei phen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os yw gwraig heb orchuddio'i phen, yna fe ddylai hi dorri ei gwallt yn llwyr. Ond os yw'n waradwydd i wraig dorri ei gwallt neu eillio ei phen, fe ddylai hi wisgo gorchudd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os na bydd gwraig yn gwisgo gorchudd, cneifier hi hefyd; eithr os cywilyddus i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged orchudd.