1 Corinthians 12:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac y arall weithredy adæ gweithredoedd mawriō: ac y arall propwyto liaeth: ac y arall vvybot gohanieth ysprytoedd: ac y arall, amryw davodew: ac y arall ladmerieth tavodeu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i arall, weithrediadau gwyrthiau; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, wahan-farnu ysprydoedd; i arall, amryw dafodau; ac i arall gyfieithiad tafodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac i arall rymusterau nerthoedd, ac i arall broffwydoliaeth, ac i arall wahaniaethu rhwng ysbrydion, ac i arall amryw dafodau, ac i arall ddehongli tafodau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu'r gallu i ddweud ble mae'r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru thafodau, i un arall ddehongli tafodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac i arall, alluoedd i wneuthur gwyrthiau; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, ddirnadaeth o ysprydoedd; ac i arall, mathau o dafodau dyeithr; ac i arall ddeongliad tafodau dyeithr.