1 Corinthians 12:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys trwy ’r vn Yspryt in batyddiwyt yn vn corph, pa vn bynac vom ai Iuddaeon, ai Groecwyr, ai caith ion vom, ai rhyddion, ac in gwnaethpwyt y yfet yn yr vn Yspryt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yn un Yspryd, nyni oll, i un corph y’n bedyddiwyd, pa un bynnag ai Iwddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; a’r oll o honom, ag un Yspryd y’n diodwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys drwy un Ysbryd y’n bedyddiwyd, ninnau oll, yn un corff, ai Iddewon ai Groegiaid, ai caethion ai rhyddion; ac ag un Ysbryd diodwyd ni oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff — yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o'r un Ysbryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn wir mewn un Yspryd y bedyddiwyd ni oll i un corph, pa un bynnag ai Iuddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion, a nyni oll a wnaed i yfed o un Yspryd.