1 Corinthians 12:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s y troed a ddywait, Can nad wyf y llaw, nyd wyf o’r corph, anyd yw hi er hyny o’r corph?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os dywaid y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corph, nid yw efe, gan hyny, “Nid o’r corph.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os dywed y troed, “Gan nad wyf law, nid rhan o’r corff mohonof,” nid yw wrth hynny yn peidio â bod yn rhan o’r corff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw efe o'r corff?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Petai troed yn dweud “Am nad ydw i'n llaw dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai'r droed honno yn peidio bod yn rhan o'r corff? Wrth gwrs ddim!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dywed y troed, "Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff", nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph.