1 Corinthians 12:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s dywait y glust, Can nad wyf i lygat, nyd wyf o’r corph: anyd yw hi er hyny o’r corph?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os dywaid y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corph, nid yw hi, gan hyny, “Nid o’r corph.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf lygad, nid rhan o’r corff mohonof,” nid yw wrth hynny yn peidio â bod yn rhan o’r corff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw hi o'r corff?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i'n llygad dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai hi'n peidio bod yn rhan o'r corff wedyn? Na!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os dywed y glust, "Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff", nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph.