1 Corinthians 12:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyddoch mae Genetloedd oeðech, ac ich dugit ffvvrdd at eidoleu mution, megis ich tywysit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyddoch mai pan cenhedloedd oeddych, at yr eilunod mudion y’ch arweinid ymaith, ym mha fodd bynnag y’ch arweinid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyddoch eich arwain ymaith, â chwi eto’n ethnigion, at yr eilunod, fudion bethau, sut bynnag y’ch arweinid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y'ch tywysid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan roeddech chi'n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a'ch camarwain gan eilun-dduwiau mud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe wyddoch sut y byddech yn cael eich ysgubo i ffwrdd at eilunod mud, pan oeddech yn baganiaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwi a wyddoch pan oeddych genhedloedd, arweinid chwi ymaith at yr eilunod mudion, ym mha fodd bynnag y'ch arweinid.