1 Corinthians 12:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r llygod ny all dywedyt wrth y llaw, Nyd rait i mi wrthyt: na’r pen drachefn wrth y traet, Nyd raid y mi wrthych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Rhaid wrthyt nid oes arnaf; nac etto y pen wrth y traed, Rhaid wrthych nid oes arnaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, “Nid rhaid imi wrthyt ti” nac ychwaith y pen wrth y traed, “Nid rhaid imi wrthych chwi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy'r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, "Nid oes arnaf dy angen di", na'r pen chwaith wrth y traed, "Nid oes arnaf eich angen chwi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na thrachefn y pen wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.