1 Corinthians 12:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr yn vwy o lawer yr aebodae hyny ir corph, a dybir eu bot yn l’escaf, ’syð yn angenreidiol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr llawer mwy, yr aelodau o’r corph y sy’n edrych yn wannach, angenrheidiol ydynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau hynny o’r corff yr ymddengys eu bod yn wannaf sydd anhepgor;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn hollol fel arall — mae'r rhannau hynny o'r corff sy'n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r gwrthwyneb yn hollol, y mae'r aelodau hynny o'r corff sy'n ymddangos yn wannaf yn angenrheidiol;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph sydd yn ymddangos yn wannach, ydynt angenrheidiol;