1 Corinthians 12:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r aelodae hyny ir corph, yr ei a dybiwn eu bot yn anparchedichaf, y gosodwn vwy o barch yn ei cylch: a’n aelodae anharð ’sy a mwy o harddiwch am danwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y rhannau o’r corph y tybiwn eu bod yn ammharchediccach, ar y rhai hyn y rhoddwn barch helaethach; ac ein rhannau anhardd, harddwch helaethach a gant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r aelodau hynny y sydd i’n tyb ni yn lleiaf eu parch, y rhai hynny a arwisgwn â pharch neilltuol; ac fe gaiff ein haelodau anweddaidd weddeidd-dra neilltuol,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o'r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisg i'w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'r rhai sydd leiaf eu parch yn ein tyb ni, yr ydym yn amgylchu'r rheini pharch neilltuol; ac y mae ein haelodau anweddaidd yn cael gwedduster neilltuol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r rhannau o'r corph a dybiwn ni eu bod yn llai anrhydeddus, y rhai hyn a wisgwn âg anrhydedd helaethach; a'r rhannau anhardd a gänt harddwch helaethach;