1 Corinthians 12:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny a’s doluria vn aylod, e gyd‐doluria ’r oll aelodae: a’s anrydeddir vn aylod, e gyd‐doluria’r oll aelodae: as anrydeddir vn aylod, cyd lawenhau a wna’r ol’ aeloodae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, cyd-ddioddef y mae yr holl aelodau; neu os gogoneddir aelod, cyd-lawenychu y mae yr holl aelodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os dioddef un aelod, cyd-ddioddefa’r aelodau oll; os gogoneddir aelod, cydlawenhâ’r aelodau oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae'r holl aelodau yn cyd‐ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae'r holl aelodau yn cydlawenhau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, os ydy un rhan o'r corff yn dioddef, mae'r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae'r corff i gyd yn rhannu'r llawenydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dyoddef a wna un aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐ddyoddef; neu os gogoneddir aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐lawenhau.