1 Corinthians 12:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Duw a lunieithawð rei yn yr Eccles: megis yn gyntaf, Apostolion, yn ail Propwyti, yn trydyð dyscyawdwyr, yno yr ei wnant wyrthiae: gwedy hyny, donieu iachau, canhorthwywyr, llywodaethwyr, rhywiae tavodyð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhai a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, apostolion; yn ail, brophwydi; yn drydydd, athrawon; wedi hyny, wyrthiau; wedi hyny, ddoniau i iachau, cynnorthwyau, llywodraethau, rhywiogaethau tafodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhai a osododd Duw yn yr eglwys, yn gyntaf, apostolion; yn ail, proffwydi; yn drydydd, athrawon; yna, nerthoedd; yna doniau iachâd, cymhorthau, llywodraethau, amryw dafodau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn ei eglwys mae Duw wedi penodi ei gynrychiolwyr yn gyntaf, yn ail proffwydi, ac yn drydydd athrawon, yna rhai sy'n gwneud gwyrthiau, rhai sy'n cael doniau i iacháu, rhai sy'n helpu eraill, rhai sy'n rhoi cyngor ac arweiniad, a rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhlith y rhain y mae Duw wedi gosod yn yr eglwys, yn gyntaf apostolion, yn ail broffwydi, yn drydydd athrawon, yna cyflawni gwyrthiau, yna doniau iachu, cynorthwyo, cyfarwyddo, llefaru thafodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai, yn wir, a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, Apostolion; yn ail, prophwydi; yn drydydd, athrawon; yna, galluoedd gwyrthiol; yna, doniau i iachâu; cynnorthwyon; llywodraethau; amryw fathau o dafodau.