1 Corinthians 12:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny ydd espesaf y’wch, nad oes nep yn ymadrodd trwy Yspryt Duw, yn galw Iesu yn escommun beth: hefyd nyd oes nep a all dywedyt mae ’r Iesu yw ’r Arglwydd, a ddieithr trwy ’r Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, hyspysu i chwi yr wyf, nad yw neb, yn llefaru yn Yspryd Duw, yn dywedyd, Anathema yw’ r Iesu; ac nad oes neb all ddywedyd, Yr Arglwydd yw’ r Iesu, oddieithr trwy yr Yspryd Glân.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd hynny yr wyf yn hysbysu i chwi na ddywed neb a lefaro yn Ysbryd Duw, “Anathema Iesu,” ac na ddichon neb ddywedyd: “Arglwydd Iesu,” onid yn yr Ysbryd Glân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy'r Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i am i chi wybod beth sy'n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy'n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy'r Arglwydd,” ond trwy'r Ysbryd Glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, yr wyf yn eich hysbysu nad yw neb sydd yn llefaru trwy Ysbryd Duw yn dweud, "Melltith ar Iesu!" Ac ni all neb ddweud, "Iesu yw'r Arglwydd!" ond trwy yr Ysbryd Gln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny, yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru yn Yspryd Duw yn dywedyd, Anathema yw'r Iesu; ac ni all neb ddywedyd, Iesu sydd Arglwydd, ond yn yr Yspryd Glân.