1 Corinthians 13:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
PE d ymddiðanwn a’ thafodeu dynion ac Angelion, a mi eb gariat, perfeith genyf, yr wyf val efydd yn seiniaw, neu cymbal yn tincian,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os â thafodau dynion y llefaraf, ac â’r eiddo’ r angylion, ond cariad heb fod genyf, aethum yn efydd yn seinio, neu’n sumbal yn tincian.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ffordd odidocach fyth yr wyf yn ei dangos i chwi. Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, a’m bod eto heb gariad, wele efydd yn datsain neu symbal yn sernial fyfi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os dw i'n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i'n ddim byd ond jar metel swnllyd neu symbal yn diasbedain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os llefaraf thafodau meidrolion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os llefaraf â thafodau dynion ac angelion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio neu symbal yn clincian.