1 Corinthians 13:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan oeddwn yn vach cen, mal bachen yr ymðiðanwn, mal bachcen y dyallwn, mal bachcen y meddyliwn: and pam aethym yn wr, mi rois ym heibio vachceneiddrwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan oeddwn blentyn, llefarwn fel plentyn, deallwn fel plentyn, meddyliwn fel plentyn; pan ddaethum yn ddyn, diddymais bethau plentyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan oeddwn blentyn, llefarwn fel plentyn, syniwn fel plentyn, rhesymwn fel plentyn; ond wedi dyfod yn ŵr, bwriais heibio bethau’r plentyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu'n oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau'r plentyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan oeddwn faban, fel baban y llefarwn, fel baban y syniwn, fel baban yr ymresymmwn; ond pan ddaethum yn ddyn, diddymmais bethau baban.