1 Corinthians 13:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr awrhon yddym yn gweled mewn drych ar ddamec: and yno y gvvelvvn wynep yn wynep. Yr awrhon yr adwaen o ran: and yno yr adnabyddaf megis ac im adwaenir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys gweled yr ydym yn awr trwy ddrych, mewn dammeg; ond yna wyneb yn wyneb; yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf fel y’m hadwaenir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ar hyn o bryd gweled trwy ddrych yr ydym, ar wedd pôs, ond y pryd hwnnw, wyneb yn wyneb; weithion, mewn rhan yr adwaen, ond yna hefyd y llwyr adnabyddaf megis y’m llwyr adweinir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y'm hadwaenir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna sut mae hi — dŷn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dŷn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i'n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny'n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys gweled yr ydym yn awr trwy ddrych, mewn ffurf aneglur; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr wyf yn adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf fel y'm hadnabuwyd.