1 Corinthians 13:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ phe gvvyddvvn prophwyto, a’ gwybot oll ddirgelion, a’ phop celfyddyt, a’ phe bei genyf yr oll ffydd, mal y gallwn ysmuto mynydde dd, a’ bod eb gariat, ny d wyf ddim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os bydd genyf brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgeledigaethau oll a phob gwybodaeth, ac os bydd genyf yr holl ffydd hyd i fynyddoedd eu symud genyf, ond cariad heb fod genyf, diddym wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phe bai eiddof broffwydo a bod yn hysbys i mi’r dirgelion i gyd, a phob gwybod, a phe bai i mi bob ffydd, fel y symudwn fynyddoedd, eto, a’m bod heb gariad, nid wyf ddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Falle fod gen i'r ddawn i broffwydo, a'r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf — neu'r wybodaeth i esbonio popeth! Falle fod gen i ddigon o ffydd i ‛symud mynyddoedd‛ — ond heb gariad dw i'n dda i ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, ac os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os oes gennyf brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll a phob gwybodaeth; ac os oes gennyf yr holl ffydd fel ag i symmud mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.