1 Corinthians 13:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phe porthwn y tlodion am oll da, a’ phe rhoddwn vy‐corph, im llosci, a’ bod eb gariat, nyd dim lles‐ymy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os i borthi tlodion y rhoddaf fy holl feddiannau, ac os traddodaf fy nghorph fel y’m llosger, ond cariad heb fod genyf, nid oes dim lleshad i mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phe’n gardod y rhannwn fy meddiannau oll, a phe dodwn fy nghorff fel y’m llosgid, a’m bod hefyd heb gariad, nid llesach i mi hynny.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phe porthwn y tlodion â'm holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i'm llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Falle mod i'n fodlon rhannu'r cwbl sydd gen i gyda'r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd — ond heb gariad, dw i'n ennill dim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os rhof fy holl feddiannau i borthi eraill, ac os rhof fy nghorff yn aberth, a hynny er mwyn ymffrostio, a heb fod gennyf gariad, ni wna hyn ddim lles imi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phe porthwn y tlodion â'm holl dda, ac os rhoddaf i fyny fy nghorph fel y'm llosger, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim lleshâd i mi.