1 Corinthians 13:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cariat ys y ddyoddefus, y mae yn gymwynascar: cariat ny chenvigena; cariat nyd ymffrostia: nyd ymchwydda:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cariad sy’n hir-ymaros, sy’n gymmwynasgar; cariad ni chenfigenna; cariad nid ymffrostia;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cariad, hirymarhous yw; cymwynasgar fydd cariad; ni bydd cenfigennus; nid ymffrostia cariad, nid ymchwydda;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae cariad yn hir‐ymaros, yn gymmwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; cariad nid yw yn dangos ei hun, nid yw yn ymchwyddo,