1 Corinthians 13:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cariat byth ny chwymp ymeith, cyd pallo prophetolaethae, ai peidiaw tavodae, ai div l annu gwybodaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cariad ni syrth byth; ond pa un bynnag ai prophwydoliaethau sydd, diddymir hwynt; neu dafodau, peidiant; neu wybodaeth, diddymir hi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cariad byth ni chwymp i lawr; eithr am broffwydoliaethau, fe’u diddymir, neu am dafodau, fe dawant, neu wybodaeth, fe’i diddymir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd cariad byth yn chwalu. Bydd proffwydoliaethau'n dod i ben; y tafodau sy'n siarad ieithoedd dieithr yn tewi; a fydd dim angen geiriau o wybodaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw cariad yn darfod byth. Ond proffwydoliaethau, fe'u diddymir hwy; a thafodau, bydd taw arnynt hwy; a gwybodaeth, fe'i diddymir hithau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cariad byth ni chwymp: eithr pa un bynnag ai prophwydoliaethau, hwy a ddiddymmir; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiddymmir;