1 Corinthians 14:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
DIlynwch gariat, a’ deisyfwch ddoniæ ysprytawl, ac yn hytrach bot y chwi prophwyto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dilynwch gariad, ond chwenychwch yr ysprydol bethau, ond mwyaf, y bo i chwi brophwydo;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymlidiwch ar ôl cariad, a byddwch fawr eich awydd am ddoniau ysbrydol, ond yn bennaf mynnwch broffwydo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dilynwch gariad, a deisyfwch ddoniau ysbrydol; ond yn hytrach fel y proffwydoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhowch y flaenoriaeth i gariad, ond ceisiwch yn frwd beth sy'n dod o'r Ysbryd, yn arbennig y ddawn o broffwydo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dilynwch gariad yn daer, a rhowch eich bryd ar y doniau ysbrydol, yn enwedig dawn proffwydo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dylynwch gariad, a byddwch eiddigeddus am ddoniau ysprydol, ond yn hytrach fel y prophwydoch.