1 Corinthians 14:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y mae cynniuer o rywie gaethe lleisiae, (val y bydd) yn y byd, ac nyd oes vn o hanynt yn vut.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cymmaint ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau sydd yn y byd, ac nid oes un rhywogaeth yn aflafar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y mae cynifer math ar dafodau yn y byd, ac nid oes un ohonynt heb ystyr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pob math o ieithoedd yn y byd, ac maen nhw i gyd yn gwneud sens i rywun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mor niferus yw'r mathau o ieithoedd sydd yn y byd! Ac nid oes unman heb iaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae, debygir, gynnifer o rywogaethau o leisiau yn y byd, ac nid oes un yn ddilafar.