1 Corinthians 14:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny a ddyeithr ym’ wybot grym y llais, mi vyddaf yn varbarus ir vn a vo yn ymðiddan, a’r vn a ymddiddan, vydd barbarus i mi nheu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, na wn rym y llais, byddaf i’r hwn sy’n llefaru, yn farbariad; a’r hwn sy’n llefaru fydd i minnau yn farbariad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond eto, oni wypwyf i rym yr iaith, byddaf, i’r neb a’i llefaro hi, yn farbariad, a’r sawl a’i llefaro yn farbariad i minnau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i'r hwn sydd yn llefaru, a'r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydw i ddim yn deall beth mae rhywun yn ei ddweud, dw i a'r un sy'n siarad yn estroniaid i'n gilydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os nad wyf yn deall ystyr y siaradwr, byddaf yn farbariad aflafar iddo, ac yntau i minnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os nad wyf gan hynny yn gwybod ystyr y llais, mi a fyddaf i'r hwn sydd yn llefaru yn farbariad, a'r hwn sydd yn llefaru fydd i minnau yn farbariad.