1 Corinthians 14:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly chwi theu yn gymeint ach bot yn deisyfy doniæ ysprytol, ceisiwch dra ragori tuac at adeiladeth yr Eccles.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly chwithau hefyd, gan mai awyddus ydych i ddoniau ysprydol, er adeiladaeth yr eglwys, ceisiwch fod ag helaethder genych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, chwithau hefyd, gan eich bod yn chwannog am ddoniau ysbrydol, boed mai er adeiladaeth y ceisioch fod yn helaeth ynddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna fel mae hi gyda chi! Os dych chi'n frwd i brofi beth mae'r Ysbryd yn ei roi, gofynnwch am fwy o'r pethau hynny sy'n adeiladu cymdeithas yr eglwys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan eich bod chwi, felly, a'ch bryd ar ddoniau'r Ysbryd, ceisiwch gyflawnder o'r rhai sy'n adeiladu'r eglwys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly chwithau hefyd, gan eich bod yn awyddus am ddoniau ysprydol, ceisiwch er adeiladaeth yr eglwys i ymhelaethu ynddynt.