1 Corinthians 14:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac any d ef, pan vendithych gan yr yspryt, pa wedd y byð ir hwn ’sy yn lle an d yscedic, ddywedyt Amen, ar bryd dy ddiolwch di, can na wyr ef beth a ddywedy?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os bendithi â’ r yspryd, pa wedd y bydd i’r hwn sy’n cyflawni lle’r anghyfarwydd ddweud yr Amen ar dy ddodiad diolch di, pan na ŵyr pa beth yr wyt yn ei ddywedyd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os bendigi ag ysbryd, pa fodd y dywed y sawl a fo yn sedd y cyffredin yr Amen i’th ddiolch di? Canys ni ŵyr pa beth a leferi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os bendithi â'r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle'r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os mai dim ond yn dy ysbryd rwyt ti'n moli Duw, sut mae pobl eraill i fod i ddeall a dweud “Amen” i beth rwyt ti'n diolch amdano? — dŷn nhw ddim yn gwybod beth rwyt ti'n ddweud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid e, os byddi'n moliannu 'r ysbryd, pa fodd y gall rhywun sydd heb ei hyfforddi ddweud yr "Amen" i'r diolch yr wyt yn ei roi, os nad yw'n deall beth yr wyt yn ei ddweud?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os bendithi â'r yspryd, pa fodd y dywed yr hwn sydd yn llenwi lle yr annghyfarwydd yr Amen ar dy roddi diolch di, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?