1 Corinthians 14:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny yn yr Eccles gwell genyf ðywedyt pemp gair a’m dyall er mwyn ymy hefyt addyscu eraill, na dec mil o eriae mewn tavod dieithr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr yn yr eglwys ewyllysiwn lefaru pum gair â’m deall, fel y dysgwyf eraill hefyd, rhagor myrddiynau o eiriau â thafod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr yn yr eglwys mwy dymunol gennyf lefaru pum gair â’m deall, fel y gallwyf hyfforddi eraill hefyd, yn hytrach na myrddiwn o eiriau â “thafod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn yr eglwys byddai'n well gen i siarad pum gair mae pobl yn eu deall, er mwyn dysgu rhywbeth iddyn nhw, na miloedd ar filoedd o eiriau mewn iaith ddieithr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn yr eglwys, y mae'n well gennyf lefaru pum gair 'm deall, er mwyn hyfforddi eraill, na deng mil o eiriau thafodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond yn yr eglwys ewyllysiaf yn hytrach lefaru pum gair â'm deall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiynau o eiriau â thafod.