1 Corinthians 14:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr hwn a ymddiddan davot dieithr, nyd wrth ddynion yr ymddiddan, anyd wrth Dduw: can nad oes neb yn ei glywet: er hynny yn yr yspryt y mae ef yn ymðiddan dirgelion:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr hwn sy’n llefaru â thafod, nid wrth ddynion y llefara, eithr wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall; ond yn yr yspryd y llefara ddirgeledigaethau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y neb sy’n llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae’n llefaru, eithr wrth Dduw. Canys nid oes neb yn ei glywed, eithr yn yr ysbryd llefara ddirgel bethau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw; canys nid oes neb yn gwrando; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Siarad â Duw mae rhywun sy'n siarad ieithoedd dieithr, nid siarad â phobl. Does neb arall yn deall beth sy'n cael ei ddweud, am mai pethau dirgel sy'n cael eu dweud yn yr Ysbryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r sawl sydd yn llefaru thafodau yn llefaru, nid wrth bobl, ond wrth Dduw. Nid oes unrhyw un yn ei ddeall; llefaru pethau dirgel y mae, yn yr Ysbryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall; ond yn yr yspryd y mae yn llefaru dirgeledigaethau.