1 Corinthians 14:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vroder, na vyðwch vechcin o ðyall, eithr am ðrigioni byðwch vechcin, anyd o ddyall byddwch gwbl‐ oedran.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fy mrodyr, na fyddwch blant mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn deall byddwch berffaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Frodyr, na byddwch blant o ran deall, eithr mewn drygioni byddwch blantos; ond o ran deall byddwch berffeithion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd annwyl, stopiwch ymddwyn fel plant bach! Byddwch yn ddiniwed fel babis bach lle mae drygioni'n y cwestiwn. Ond, fel arall, dw i eisiau i chi feddwl ac ymddwyn fel oedolion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fy nghyfeillion, peidiwch bod yn blantos o ran deall; byddwch yn fabanod o ran drygioni, ond yn aeddfed o ran deall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O frodyr, na fyddwch blant mewn meddwl, eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn meddwl, byddwch ddynion addfed.