1 Corinthians 14:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yny Ddeðyf yð yscrivenir, Drwy ’rei o davodae ereill, a’ thrwy iaithoedd eraill yr ymadroddaf wrth y popul hyn: eto velly ny chlywant vi, með yr Arglwyð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn y Gyfraith yr ysgrifenwyd, “Trwy rai estronieithus, ac â gwefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd yn oed felly, ni’m gwrandawant, medd yr Arglwydd.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn y gyfraith ceir yn ysgrifenedig: â thafodau eraill ac â gwefusau eraill y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd yn oed wedi hynny ni wrandawant arnaf, medd yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni'm gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith: “Bydda i'n siarad â'r bobl yma mewn ieithoedd dieithr, trwy'r hyn fydd pobl estron yn ei ddweud — ond fyddan nhw ddim yn gwrando arna i wedyn,” meddai'r Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n ysgrifenedig yn y Gyfraith: "'Trwy rai o dafodau dieithr, ac gwefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac eto ni wrandawant arnaf,' medd yr Arglwydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn y Ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai o dafodau dyeithr, a thrwy wefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd y nod felly ni'm gwrandawant, medd yr Arglwydd.