1 Corinthians 14:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny tavodae dieithr ynt yn lle arwyð, nyd ir sawl a credāt, anyd ir sawl ny c h redant: eithyr propwyto liaeth a vvasanaetha ny d ir ei a credant, anyd ir ei ny c h redant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly tafodau, er arwydd y maent, nid i’r rhai sy’n credu, eithr i’r rhai digred; ond prophwydoliaeth, nid i’r rhai digred, ond i’r rhai sy’n credu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y tafodau, felly, arwydd ydynt, nid i’r rhai credadun, eithr i’r rhai anghredadun; ond am broffwydoliaeth, nid i’r rhai anghredadun, eithr i’r rhai credadun y mae.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i'r rhai di‐gred, ond i'r rhai sydd yn credu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhybudd o farn i bobl sydd ddim yn credu ydy ieithoedd dieithr, nid i'r rhai sy'n credu. Ond mae proffwydoliaeth yn arwydd i'r rhai sy'n credu, nid i'r rhai sydd ddim yn credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arwyddion yw tafodau, felly, nid i gredinwyr, ond i anghredinwyr; ond proffwydoliaeth, nid i anghredinwyr y mae, ond i gredinwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly, tafodau ydynt er arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai digred; eithr prophwydoliaeth, nid i'r rhai digred, ond i'r rhai sydd yn credu.