1 Corinthians 14:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s can hyny, pan ddel yr oll Eccles ynghyt yn vn, a phawp yn dywedyt tavodeu dieithr, daw y mewn ’rei an d yscetic, neu rei eb gredu, any ddywedant, eich bot wedy gorphwyllo?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, os daw yr eglwys oll ynghyd, a phawb a lefarant â thafodau, a dyfod i mewn o rai anghyfarwydd neu ddigred, oni ddywedant mai allan o’ch pwyll yr ydych?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna, o daw’r eglwys ynghŷd yn gryno i’r un fan, a llefaru o bawb â thafodau, a dyfod i mewn rai anghyfarwydd, neu rai anghredadun, oni ddywedant eich bod o’ch pwyll?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan hynny os daw'r eglwys oll ynghyd i'r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae'r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn dod i mewn, byddan nhw'n meddwl eich bod chi'n hollol wallgof!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, pan ddaw holl aelodau'r eglwys ynghyd i'r un lle, os bydd pawb yn llefaru thafodau, a phobl heb eu hyfforddi, neu anghredinwyr, yn dod i mewn, oni ddywedant eich bod yn wallgof?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny, os daw yr eglwys oll ynghyd i'r un lle, a llefaru o bawb â thafodau, a dyfod o rai annghyfarwydd neu ddigred i mewn, oni ddywedant eich bod allan o'ch pwyll?