1 Corinthians 14:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly yr amlygir dirgeloedd ei galon, ac velly y cwymp ef ar ei wynep ac yr addola Dduw, ac a ddywait yn ’oleu vot Duw ynoch yn ddiau,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac felly, wedi syrthio ar ei wyneb, yr addola Dduw gan fynegi, Yn wir, Duw sydd yn eich plith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
daw’n amlwg gudd bethau ei galon ef, ac felly, gan syrthio ar ei wyneb, fe addola Dduw gan gyffesu: yn wir y mae Duw yn eich plith chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y gwir amdanyn nhw yn dod i'r wyneb, a byddan nhw'n syrthio i lawr ac yn addoli Duw, a gweiddi, “Mae'n wir! — mae Duw yn eich plith chi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
daw pethau cuddiedig ei galon i'r amlwg, ac felly bydd yn syrthio ar ei wyneb ac yn addoli Duw a dweud, "Y mae Duw yn wir yn eich plith."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg, ac felly wedi syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddadgan, Yn wir, y mae Duw yn eich plith.