1 Corinthians 14:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth bellach, vroder? pan ddeloch yn‐cyt, vvrth val y bo gan bop vn o hanoch psalm, neu vot ganto ddysc eidaeth, neu vot ganto davot, neu vot gantho dd atguddd, neu vot gantho esponiat, byddet pop peth oll er adail ieth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny, sydd, frodyr? Pan ddeloch ynghyd, pob un sydd â psalm ganddo, â dysgad ganddo, â datguddiad ganddo, â thafod ganddo, â chyfieithiad ganddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth, ynteu, frodyr? Pan ddeloch ynghŷd, bydd gan bob un ei salm, ei athrawiaeth, ei ddatguddiad, ei “dafod,” ei ddehongliad. Popeth, bydded er adeiladaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth dw i'n ei ddweud felly, ffrindiau annwyl? Pan fyddwch yn cyfarfod gyda'ch gilydd, mae gan bawb rywbeth i'w rannu — cân, rhywbeth i'w ddysgu i eraill, rhyw wirionedd sydd wedi ei ddatguddio, siarad iaith ddieithr neu'r gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud. Dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd fydd yn cryfhau cymdeithas yr eglwys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth amdani, ynteu, gyfeillion? Pan fyddwch yn ymgynnull, bydd gan bob un ei salm, ei air o hyfforddiant, ei ddatguddiad, ei lefaru thafodau, ei ddehongliad. Gadewch i bob peth fod er adeiladaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth yw gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo ddadguddiad, y mae ganddo dafod, y mae ganddo ddeongliad.