1 Corinthians 14:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A dywait nep davot dieithyr gvvneler bob ddau neu or mwyaf bob dri, a hyny ar gylch ac esponet vn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bydded i bob peth ei wneuthur er adeiladaeth. Os â thafod y bydd neb yn llefaru, bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, bydded, a hyny ar gylch, a bydded i un gyfieithu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O llefara neb â “thafod,” bydded hynny hyd ddau neu yn y fan bellaf dri, ac yn eu tro, a dehongled un.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oes siarad mewn ieithoedd dieithr i fod, dim ond dau — neu dri ar y mwya — ddylai siarad; pob un yn ei dro. A rhaid i rywun esbonio beth sy'n cael ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os oes rhywun yn llefaru thafodau, bydded i ddau yn unig, neu dri ar y mwyaf, lefaru, a phob un yn ei dro; a bydded i rywun ddehongli.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwneler pob peth er adeiladaeth. Os llefara un â thafod, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a phob un yn ei dro; a deongled un.