1 Corinthians 14:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac any bydd esponiwr, tawet a son yn yr Eccles, yr hvvn a ddavvait iaithoedd, a’ dywedet wrtho yhunā, ac wrth Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond os na fydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; ac wrtho ei hun llefared, ac wrth Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac oni bo ddehonglydd, tawed yn yr eglwys a llefared wrtho ef ei hun ac wrth Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho'i hun, ac wrth Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os nad oes neb i esbonio beth sy'n cael ei ddweud, dylai'r rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr aros yn dawel yn y cyfarfod, a chadw'r peth rhyngddyn nhw a Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os nad oes dehonglydd yn bresennol, bydded y llefarydd yn ddistaw yn y gynulleidfa, a llefaru wrtho'i hun ac wrth Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr os na fydd deonglwr, tawed yn yr eglwys, a llefared wrtho ei hun ac wrth Dduw.