1 Corinthians 14:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys chwi ellwch oll bropwyto bop vn ac vn, val y gallont oll ddyscu, ac oll gael confforth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys bob yn un y gellwch oll brophwydo, fel y bo i bawb ddysgu a phawb eu diddanu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys fe all pawb ohonoch bob yn un broffwydo, fel y dysgo pawb ac yr anoger pawb, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gall pob un ohonoch chi broffwydo yn eich tro, er mwyn i bawb gael eu dysgu a'u hannog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd gall pawb ohonoch broffwydo, bob yn un, er mwyn i bawb gael addysg a chysur.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac yr annoger pawb.