1 Corinthians 14:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s mynant ðyscu dim, ymofynant ai gwyr gartref: can ys gwarth us yw i wragedd ddywedyt dim yn yr Eccles.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond os dysgu rhyw beth a ewyllysiant, gartref â’u gwŷr eu hunain ymofynont, canys cywilyddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Od ewyllysiant ddysgu rhywbeth, holent eu gwŷr priod yn tŷ, canys peth anweddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â'u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os ydynt am gael gwybod rhywbeth, dylent ofyn i'w gwu375?r eu hunain gartref, oherwydd peth anweddus yw i wraig lefaru yn y gynulleidfa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os ewyllysiant ddysgu dim, ymofynant â'u gwŷr eu hunain gartref; oblegyd cywilyddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.