1 Corinthians 14:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ai ywrthy chwi y daeth gair Duw allan, neu ai atochwi yn vnic y daeth ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai oddiwrthych chwi y bu i air Duw ddyfod allan; neu attoch chwi yn unig y daeth?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ai o’ch plith chwi yr aeth gair Duw allan, ai atoch chwi’n unig y daeth?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth? Ai oddi wrthoch chi ddaeth neges Duw gyntaf? Neu ai chi ydy'r unig bobl y mae neges Duw wedi dod atyn nhw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ai oddi wrthych chwi y cychwynnodd gair Duw? Neu ai atoch chwi yn unig y cyrhaeddodd?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ai oddiwrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai attoch chwi yn unig y daeth efe?