1 Corinthians 14:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn a ddywait mevvn tavot dieithr, ai h adail y hunan: any d yr vn a prophwyta a adail yr Eccles.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n llefaru â thafod, ef ei hun a adeilada efe; ond yr hwn sy’n prophwydo, yr eglwys a adeilada efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y neb sy’n llefaru â thafod, ei adeiladu ei hun y mae, ond y neb sy’n proffwydo, yr eglwys a adeilada.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan: eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn adeiladu yr eglwys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae siarad ieithoedd dieithr yn help i'r un sy'n siarad, ond mae proffwydo yn helpu cymdeithas yr eglwys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r sawl sy'n llefaru thafodau yn ei adeiladu ei hun, ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn adeiladu'r eglwys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn llefaru â thafod sydd yn adeiladu ei hunan, ond yr hwn sydd yn prophwydo sydd yn adeiladu yr eglwys.