1 Corinthians 14:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi vynnwn pe llavarech bawp davot diethr, anyd yn gynt bot y chwi prophwyto: can ys mwy yw ’r vn a brophwyta, na ’r vn a lefair amryvv davodae, o ddieithr yðo ei ddeongl, y gahel o’r Eccles dderbyn adail ad.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ewyllysiwn i’r oll o honoch lefaru â thafodau; ond yn fwy i chwi brophwydo; a mwy yw ’r hwn sy’n prophwydo na’r hwn sy’n llefaru â thafodau, oddieithr cyfieithu o hono fel y bo i’r eglwys dderbyn adeiladaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Boddlon gennyf i bawb ohonoch lefaru â thafodau, ond yn fwy na dim broffwydo ohonoch. Mwy yn wir yw’r sawl sy’n proffwydo na’r sawl sy’n llefaru â thafodau, oddieithr iddo yntau ddehongli, fel y caffo’r eglwys adeiladaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr; ond yn hytrach broffwydo ohonoch: canys mwy yw'r hwn sydd yn proffwydo, na'r hwn sydd yn llefaru â thafodau; oddieithr iddo ei gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n falch dros bob un ohonoch chi sy'n gallu siarad mewn ieithoedd dieithr, ond byddai'n well gen i eich cael chi i broffwydo. Am eu bod nhw'n helpu'r eglwys, mae'r rhai sy'n proffwydo yn gwneud peth gwell na'r rhai sy'n siarad mewn ieithoedd dieithr (oni bai fod rhywun yn esbonio beth sy'n cael ei ddweud!)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mi hoffwn ichwi i gyd lefaru thafodau, ond yn fwy byth ichwi broffwydo. Y mae'r sawl sy'n proffwydo yn well na'r sawl sy'n llefaru thafodau, os na all ddehongli'r hyn y mae'n ei ddweud, er mwyn i'r eglwys gael adeiladaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr mi a ewyllysiwn i'r oll o honoch lefaru â thafodau, ond yn hytrach brophwydo o honoch: a mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo na'r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddieithr iddo ddeongli, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth.