1 Corinthians 14:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon, vroder, a’ s dawaf i atoch gan lavaru amrafael davodae, pa les a wnaf ychwy, dyeithr ymddiddan o hanaf wrthych, ai drwy dd atguddiat, ai drwy wybyddieth, ai drwy brophetolieth, ai drwy ddysceidaeth?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa lesad a wnaf i chwi, os nad wrthych y llefaraf naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy brophwydoliaeth, neu trwy ddysgad?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn awr, frodyr, os dof atoch gan lefaru â thafodau, pa les a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych, ai mewn datguddiad, ai mewn gwybodaeth, ai mewn proffwydoliaeth, ai mewn athrawiaeth?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy broffwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, taswn i wedi dod atoch chi yn siarad mewn ieithoedd dieithr, fyddai hynny'n dda i ddim. Byddai'n llawer gwell i mi rannu rhywbeth sydd wedi ei ddatguddio i mi, neu air o wybodaeth neu broffwydoliaeth neu neges fydd yn dysgu rhywbeth i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, gyfeillion, os dof atoch gan lefaru thafodau, pa les a wnaf i chwi, os na ddywedaf rywbeth wrthych sy'n ddatguddiad, neu'n wybodaeth, neu'n broffwydoliaeth, neu'n hyfforddiant?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa leshâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych mewn ffordd o ddadguddiad, neu wybodaeth, neu brophwydoliaeth, neu athrawiaeth.