1 Corinthians 14:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly chwi theu, trwy’r tavod o ðyeithr ywch adrodd geiriae yn arwyddocau, pa wedd y dyellir beth a ddyweder? can ys byddwch yn ymddiddan yn yr awyr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly chwithau hefyd â’r tafod, os nad ymadrodd dealladwy a roddwch, pa wedd y gwybyddir yr hyn a leferir, canys i’r awyr y byddwch yn llefaru?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly chwithau hefyd, oni roddoch drwy’r “tafod” ymadrodd eglur ei ystyr, pa fodd yr adweinir y peth a leferir? Canys cystal fyddwch â rhai’n llefaru wrth yr awyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly chwithau, oni roddwch â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r un fath gyda chi. Os ydy beth dych chi'n ei ddweud ddim yn gwneud sens, pa obaith sydd i unrhyw un ddeall? Byddwch yn siarad gyda'r gwynt!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly chwithau: wrth lefaru thafodau, os na thraethwch air y gellir ei ddeall, pa fodd y gall neb wybod beth a ddywedir? Malu awyr y byddwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly chwithau hefyd, trwy lefaru â thafod, os na thraethwch ymadrodd hawdd ei ddeall, pa fodd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.