1 Corinthians 15:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC vvele, vroder, llyma vi yn menegi ywch yr Euāgel, rhon a euangelais y chwy, yr hon hefyt a dd erbyniesoch, ac yn yr hon ydd ych yn sefyll,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac hyspysu yr wyf i chwi, frodyr, yr Efengyl a efengylais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch; yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hefyd, frodyr, egluro yr wyf i chwi, — am yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yr hon hefyd y sefwch ynddi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, frodyr a chwiorydd, dw i eisiau eich atgoffa chi'n llawn o'r newyddion da wnes i ei gyhoeddi i chi. Dyma'r newyddion da wnaethoch chi ei gredu, ac sy'n sylfaen i'ch ffydd chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf am eich atgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethais i chwi ac a dderbyniasoch chwithau, yr Efengyl sydd yn sylfaen eich bywyd
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn gwneyd yn hyspys i chwi, frodyr, yr efengyl a efengylais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll,