1 Corinthians 15:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr gan ’rat Duw ydd wyf, hyn yd wyf: a’ ei rat rhwn ’sy ynof, ny bu over: eithyr mi a lavuriais yn helaethach nac wyntwy oll: nyd mi hagen, amyn y rhat Duw a’r y ’sy gyd a mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond trwy ras Duw ydwyf yr hyn ydwyf; a’i ras Ef, yr hwn a fu tuag attaf, nid ofer fu, eithr yn helaethach na hwynt oll y llafuriais; ond nid myfi chwaith eithr gras Duw yr hwn oedd gyda mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond trwy ras Duw yr ydwyf y peth ydwyf; a’i ras ef tuag ataf i, nid ofer fu, ond yn helaethach na hwynt oll y llafuriais, nid myfi chwaith, ond gras Duw gyda mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, trwy dywallt ei haelioni arna i. A dydy ei rodd e ddim wedi bod yn aneffeithiol. Dw i wedi gweithio'n galetach na'r lleill i gyd — nid fy mod i fy hun wedi gwneud dim go iawn, rhodd Duw oedd ar waith ynof fi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond trwy ras Duw yr wyf yr hyn ydwyf, ac ni bu ei ras ef tuag ataf yn ofer. Yn wir, mi lafuriais yn helaethach na hwy i gyd eto nid myfi, ond gras Duw, a oedd gyda mi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer, eithr mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll; etto nid myfi, ond gras Duw gyda mi.